Fe fydd gweithwyr Eurostar yn streicio am saith diwrnod, dros ddau benwythnos y mis hwn, mewn ffrae tros amodau gweithio.

Fe fydd aelodau’r undeb RMT yn cerdded allan am hanner nos, ddydd Gwener, Awst 12 tan hanner nos ddydd Llun, Awst 15; ac am dridiau arall dros benwythnos Gwyl Banc Awst 27.

Dyma’r trydydd streic y mis hwn i weithwyr trenau fod yn rhan ohono. Mae gweithwyr yr RMT ar linell de Lloegr wedi bod yn gweithredu’n ddiwydiannol yr wythnos hon, ac mae’r undeb hefyd wedi cyhoeddi y bydd streic ar linell Virgin ar arfordir dwyreiniol Lloegr.