Mae arweinydd gwleidyddol Gwlad Thai wedi dweud y  bydd etholiad yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2017, dan gyfansoddiad newydd sy’n dweud mai’r fyddin fydd yn rheoli’r llywodraeth nesa’.

Roedd y prif weinidog Prayuth Chan-ocha, sydd hefyd yn bennaeth ar y fyddin ers i honno gipio rheolaeth mewn coup d’etat yn 2014, wedi addo y byddai etholiad yn 2017.

Hyd yma, nid oedd wedi dynodi ym mha fis y byddai’n digwydd.

Wrth wneud ei gyhoeddiad, mae Prayuth Chan-ocha yn gwadu awgrymiadau y bydd yr etholiad yn cael ei ohirio tan 2018, mewn gwirionedd.