Mae ysbyty plant yn Syria sy’n cael ei gefnogi gan elusen Medecins Sans Frontieres, wedi cael ei chwalu gan gyfres o ymosodiadau o’r awyr.

Fe laddwyd 13 o bobol yn y digwyddiad yn nhre’ Millis yn nhalaith Idlib, yn cynnwys pump o blant.

Lladdwyd pedwar aelod o staff, ac anafwyd chwech, wrth i’r theatr, yr uned gofal dwys, yr adran pediatreg, yr ambiwlansys a’r generadur trydan gael eu targedu.

Mae’r ysbyty, sy’n derbyn cefnogaeth MSF ers 2014, yn derbyn tua 250 o gleifion bob dydd, a’r mwyafrif llethol ohonyn nhw’n ferched ac yn blant.