Mae gwyddonydd niwclear wedi cael ei ddienyddio yn Iran yn dilyn honiadau ei fod e wedi rhoi cudd-wybodaeth i’r Unol Daleithiau.

Honnir bod Shahram Amiri wedi datgelu manylion am raglen niwclear y wlad.

Yn ôl swyddogion o’r Unol Daleithiau yn 2010, gwnaethon nhw dalu pum miliwn o ddoleri (£382 miliwn) am wybodaeth am raglen atomig Iran, ond fe wnaeth Amiri ffoi i’r Unol Daleithiau yn ddiweddarach heb yr arian.