Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma, sydd wedi bod wrth y llyw ers dau ddegawd
Mae plaid yr ANC wedi colli grym yn un o’i chadarnleoedd ar ddechrau etholiadau yn Ne Affrica, ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y gallai’r Arlywydd Jacob Zuma golli grym ar ôl dau ddegawd wrth y llyw.

Fe gollodd y blaid wrth-apartheid yn y brifddinas, Pretoria ac ardal gyfagos Tshwane, ond roedd newyddion gwell wrth iddyn nhw lwyddo i ddal eu gafael ar Johannesburg, y ddinas fwyaf yn Ne Affrica.

Roedd perfformiad y Democratic Alliance yn gryf yn Cape Town, wrth iddyn nhw ennill mewn tair allan o’r chwech ardal fwyaf.

Ond does gan y naill blaid na’r llall fwyafrif yn Johannesburg na Tshwane, a allai arwain at y posibilrwydd o orfod ffurfio clymblaid.

Wrth i Zuma annerch y genedl ar y teledu, fe wynebodd brotestiadau tawel gan fenywod oedd yn dal cardiau’n cyfeirio at ei achos llys yn 2006, pan gafwyd e’n ddieuog o dreisio.

Roedd poblogrwydd yr ANC ar gynnydd am gyfnod ar sail eu brwydr yn erbyn rheolaeth gwleidyddion croen gwyn dros rannau helaeth o’r wlad, ond mae eu gwaith yn y maes hwnnw wedi cael ei bardduo gan honiadau o lygredd a phroblemau economaidd.

Cyn yr etholiad hwn, doedd yr ANC erioed wedi colli mewn ardal lle mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn bobol groenddu, ond bellach maen nhw wedi colli mewn dwy ardal o’r fath, gan gynnwys Nelson Mandela Bay.

Yn ei anerchiad, dywedodd Zuma fod “democratiaeth yn aeddfedu” yn Ne Affrica.

Y Democratic Alliance sy’n rheoli Cape Town, yr unig ardal fawr lle mai pobol groenddu ymhlith y lleiafrif.

Fe allai’r canlyniadau siomedig i’r ANC orfodi Jacob Zuma allan o’i swyddfa cyn diwedd ei fandad, sy’n dod i ben yn 2019.

Os yw am gadw grym am y tro, mae’n ymddangos y bydd yn rhaid iddo droi ei olygon at gefn gwlad De Affrica.