Llun: PA
Mae swyddogion yn yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi cyngor newydd i ferched beichiog i beidio teithio i ardal yn Fflorida lle mae’r firws Zika yn lledu.
Mae’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) hefyd yn cynghori merched beichiog sy’n byw yno i gymryd camau i atal cael eu pigo gan fosgitos a lledaenu’r firws drwy gyfathrach rywiol.
Daeth y cyngor newydd ar ôl i Lywodraethwr Fflorida Rick Scott ddweud bod 10 achos newydd o’r firws Zika, a oedd mwy na thebyg wedi cael eu lledaenu gan fosgitos, gan ddod a’r cyfanswm yn y dalaith i 14.
Mae’r achosion newydd mewn ardal filltir sgwâr yn Miami-Dade County.
Mae’r CDC yn cynghori dynion a merched sydd wedi ymweld â’r ardal ers 15 Mehefin i aros am o leiaf wyth wythnos cyn ceisio cael babi.
Gall y firws aros mewn sberm am fisoedd, ac oherwydd hynny dylai dynion gyda symptomau o’r firws Zika aros am o leiaf chwe mis cyn ceisio cael babi gyda’u partner.
Mae’r firws yn gallu achosi i fabanod gael eu geni â nam ar yr ymennydd ynghyd â phennau bach.