Mae ysbyty yn nhalaith ddeheuol Daraa yn Syria, wedi cael ei llethu gan ymosodiad o’r awyr.

Y gred ydi fod yr ysbyty yn Jasem, tre’ 35 milltir i’r de o’r brifddinas, Damascus, wedi cael ei thargedu gan awyrennau’r llywodraeth, gan ladd chwech o bobol a’i gwneud hi’n amhosib i’r lle dderbyn na thrin cleifion wedyn.

Mae ysbytai’n cael eu targedu’n gyson yn rhyfel cartre’ Syria, ac mae mudiadau hawliau dynol yn honni fod mwy na 90% o ymosodiadau ar safleoedd meddygol yn Syria yn cael eu cario allan gan luoedd sy’n gefnogol i lywodraeth y wlad.