Mae adroddiadau fod nifer o bobol wedi’u saethu mewn cyfres o ddigwyddiadau yng nghanol dinas Austin, Tecsas.

Fe ddaeth neges ar dudalennau Facebook a Twitter adran Heddlu Austin yn cadarnhau eu bod yn ymateb i ddigwyddiadau’n ymwneud â saethu, cyn ychwanegu fod y safleoedd bellach wedi’i diogelu.

Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i gadw draw o ganol dinas Austin.