Mae o leiaf 52 o bobl wedi cael eu lladd mewn llifogydd ar ôl wythnos o law trwm y monsŵn yn India.

Mae degau o filoedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn nhaleithiau Bihar yn y dwyrain ac Assam yn y gogledd-orllewin.

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau’r wlad wrthi’n ceisio achub miloedd bobl o bentrefi wedi eu hamgylchynu â dŵr.

Ar ôl hedfan dros rhai o’r ardaloedd sy’n dioddef waethaf heddiw, dywed gweinidog cartref y wlad, Rajnath Singh, fod y llifogydd yn rhai ‘difrifol iawn’.

Mae llifogydd yn gyffredin yn y rhannau hyn o India yn ystod tymor y monsŵn rhwng Mehefin a Medi pob blwyddyn.