Mae'r firws yn cael ei drosglwyddo trwy fosgito
Mae merched beichiog yn cael eu cynghori i ohirio unrhyw deithiau i Florida oherwydd pryderon am y firws Zika.

Daw’r rhybudd ar ôl i’r achosion cyntaf yn yr Unol Daleithiau o Zika sydd wedi cael eu trosglwyddo gan fosgitos ddod i’r amlwg yn y dalaith.

Dywed y corff sy’n gyfrifol am iechyd cyhoeddus yn Lloegr fod y risg yn Florida yn gymedrol, o gymharu â risg uchel mewn sawl gwlad yn Ne America, gan gynnwys Brasil lle cynhelir y Gemau Olympaidd y mis nesaf.

Mae’r firws Zika wedi cael ei gysylltu â nam mewn babanod o’r enw microcephaly, sy’n achosi iddyn nhw gael eu geni gyda phennau anarferol o fach a niwed i’r ymennydd.

Mae cyfanswm o 1,650 o achosion o Zika wedi cael eu riportio yn yr Unol Daleithiau, ond pedwar claf yn Florida yw’r rhai cyntaf i gael eu heintio heb fod yn gysylltiedig â theithio allan o’r wlad.

Mae 53 o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu trin am yr haint.