Mae Hillary Clinton wedi gosod ei hun fel un a fedr uno pobol mewn byd rhanedig, fel arweinydd mewn cyfnod heriol – ac mae wedi herio gallu Donald Trump i wneud yr un peth.

“Dychmygwch o yn y Ty Gwyn mewn cyfnod o greisis go iawn,” meddai ymgeisydd y Blaid Ddemoctaidd am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. “Dyn ydi o y gallwch chi ei wylltio efo un neges ar Twitter… fedrwch chi ymddiried iddo fo arfau niwclear?”

Roedd Hillary Clinton ar lwyfan cynhadledd ei phlaid ar noson olaf y cynulliad yn Philadelphia, ac yn ymhyfrydu mai hi ydi’r ddynes gyntaf erioed, o unrhyw un o’r prif bleidiau gwleidyddol, i geisio bod yn Arlywydd America.

“Mae ar yr Unol Daleithiau angen arweinydd fydd yn gweithio gyda’i chynghreiriaid er mwyn cadw’r wlad hon yn ddiogel,” meddai.