Mae’r awdurdodau yn Ffarinc wedi enwi’r ail ddyn oedd yn gysylltiedig ag ymosodiad ar offeiriad yn Normandi ddydd Mawrth yr wythnos hon.

Mae wedi’i enwi fel Abdel-Malik Nabil Petitjean, 19, o ddwyrain Ffrainc.

Roedd wedi’i weld y mis diwetha’ yn Nhwrci, ar ei ffordd i Syria, ond fe ddychwelodd i Ffrainc yn lle gwneud y daith honno. Fe gafodd ei adnabod o brofion DNA ar ei gorff marw.

Fe ruthrodd Abdel-Malik Nabil Petitjean ac Adel Kermiche i mewn i’r eglwys yn Saint-Etienne-du-Rouvray yn ystod yr offeren, gan ddal pump o bobol yn wystlon.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.