Rali annibyniaeth yng Nghatalwnia
Mae senedd Catalwnia wedi datgan ei fod yn paratoi i geisio am annibyniaeth hyd yn oes nad ydyn nhw’n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Sbaen.

Dydd Mercher fe wnaeth senedd y rhanbarth gefnogi casgliadau comisiwn a grëwyd i astudio’r broses fyddai’n rhaid ei chymryd i wahanu’r rhanbarth oddi wrth Sbaen.

Ymhlith pethau eraill, mae’r adroddiad yn nodi y dylid cynnal refferendwm cenedlaethol i benderfynu ar ffawd Catalwnia.

Mae llywodraeth y rhanbarth yn dweud y byddai’n well ganddyn nhw gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Sbaen am annibyniaeth ond bod y diffyg ymateb yn eu gorfodi i geisio ffyrdd eraill o fynd amdani.

Roedd y bleidlais yn y senedd yn mynd yn erbyn penderfyniad  Llys Cyfansoddiadol Sbaen ym mis Rhagfyr wnaeth atal penderfyniad gan senedd Catalwnia yn galw am ddechrau proses o ymwahaniad oddi wrth Sbaen.

‘Dim dewis arall’

Wrth siarad â phapur newydd The Guardian, dywedodd llywydd Senedd Catalwnia Carme Forcadell a’r gweinidog materion tramor Raul Romeva nad oes dewis arall gan y rhanbarth oherwydd safiad Madrid.

“Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwneud i ni deimlo nad oes dewis arall,” meddai Raul Romeva.

“Rydym wastad wedi dweud y byddai’n well gennym ni sefyllfa debyg i’r Alban ble allwn ni drafod gyda’r llywodraeth a chynnal refferendwm cydlynol a democrataidd. Rydym yn parhau i siarad â Madrid, ond y cwbl ry’n ni’n ei gael yn ôl oddi wrthyn nhw yw distawrwydd.”

Ac mae’n debyg bod y cyhoedd o blaid annibyniaeth i’r rhanbarth gydag arolwg barn y mis hwn yn  dangos bod 47.7% o Gatalaniaid eisiau annibyniaeth. Dywedodd cyfanswm o 42.4% y byddai’n well ganddyn nhw aros yn rhan o Sbaen.