Heddlu'r Almaen (Llun: Wikipedia)
Mae dyfais wedi ffrwydro ger canolfan i ffoaduriaid ger Nuremberg yn yr Almaen.

Yn ôl adroddiadau roedd siwtces yn cynnwys  nifer o ganiau aerosol wedi ffrwydro ger y ganolfan yn Zirndorf.

Mae heddlu’r Almaen wedi anfon swyddogion i’r safle a changen o swyddfa ceiswyr lloches y wlad.

Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu.

Mae’r ardal yng ngogledd Bafaria lle mae dau ymosodiad wedi cael eu cynnal yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hynny.