Llun: PA
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am ddau ffrwydrad sydd wedi lladd 44 o bobl ac anafu dwsinau o rai eraill mewn tref yng ngogledd Syria.

Roedd lori yn llawn ffrwydron wedi ffrwydro ger tref  Qamishli ac yna fe ffrwydrodd beic modur ychydig funudau’n ddiweddarach yn yr un ardal.

Roedd y ffrwydradau wedi achosi difrod sylweddol i geir ac adeiladau gerllaw ac mae timau achub wedi bod yn ceisio achub pobl o’r rwbel, meddai asiantaeth newyddion SANA.

Mae tref Qamishli, sy’n agos i’r ffin a Thwrci, yn cael ei reoli’n bennaf gan Gwrdiaid ond mae lluoedd llywodraeth Syria yn bresennol ac yn rheoli maes awyr y dref.

Mae IS wedi ymosod ar sawl ardal Gwrdaidd yn Syria yn y gorffennol.

Daw’r ymosodiad diweddaraf wrth i luoedd Cwrdaidd yn bennaf, sy’n cael cefnogaeth gan yr Unol Daleithiau, barhau i geisio meddiannu tref Manbij o ddwylo IS.