Hillary Clinton (Llun: o wefan ei hymgyrch)
Yng nghynhadledd y Democratiaid yn Philadelphia, mae Hillary Clinton wedi cael ei henwebu’n swyddogol fel ymgeisydd Arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Hi yw’r ddynes gyntaf i gael ei henwebu fel ymgeisydd Arlywyddol y ddwy brif blaid wleidyddol yn America.

Dywedodd y cyn-ysgrifennydd gwladol trwy gyswllt fideo bod y Democratiaid wedi cymryd  cam enfawr tuag at chwalu’r rhwystrau i ferched i gyrraedd y brig.

‘Person angerddol’

Yn dilyn ei haraith daeth ei gŵr, y cyn-Arlywydd Bill Clinton, i’r llwyfan yng nghynhadledd y Democratiaid gan ddisgrifio ei wraig fel person “angerddol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.”

Bydd Hillary Clinton yn ymgeisio’n erbyn Donald Trump a gafodd ei enwebu’n swyddogol fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr wythnos yn ôl.

Yng nghynhadledd y Gweriniaethwyr, cafodd Hillary Clinton ei beirniadu’n chwyrn gydag ymosodiadau ar ei chymeriad a’i barn.

Amheuon am ei chymeriad

Fe all cwestiynau am ei chymeriad a didwylledd fod yn broblem i Hillary Clinton gydag arolygon barn yn dangos yn gyson nad yw’r mwyafrif o Americanwyr yn credu ei bod yn berson gonest ac na ellir ymddiried ynddi  – yn enwedig ar ôl i’r FBI gynnal ymchwiliad yn ei herbyn dros ei defnydd o e-bost preifat wrth wasanaethu fel ysgrifennydd gwladol.

Rhaniadau

Mae rhaniadau o fewn plaid y Democratiaid hefyd wedi cael eu hamlygu. Yn syth ar ôl iddi dderbyn yr enwebiad, gadawodd grŵp o gefnogwyr Bernie Sanders y gynhadledd gan brotestio eu bod wedi cael eu cau allan o’r blaid –  a hynny er i Bernie Sanders ei hun wneud araith yn cefnogi Hilary Clinton.

Bydd yr Arlywydd Barack Obama a’r dirprwy Arlywydd Joe Biden yn siarad yn y gynhadledd heddiw yn ogystal â’r seneddwr Tim Kaine fydd yn ceisio am swydd y dirprwy Arlywydd ochr yn ochr â Hillary Clinton.