Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc Llun: PA
Mae’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamiadd (IS)  bellach wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad yn Normandy heddiw, lle cafodd offeiriad 84 oed ei ladd.

Daeth yr honiad mewn datganiad a gyhoeddwyd gan yr asiantaeth newyddion sy’n gysylltiedig ag IS, sef Aamaq.

Roedd y datganiad yn nodi fod yr ymosodiad wedi’i gynnal gan “ddau filwr o’r Wladwriaeth Islamaidd.”

Ychwanegodd yr asiantaeth newyddion fod yr ymosodiad wedi’i wneud mewn ymateb i alwadau i dargedu gwledydd sy’n rhan o’r glymblaid wedi’i harwain gan yr Unol Daleithiau i frwydro yn erbyn IS.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn eglwys yn nhref Saint-Etienne-du-Rouvray  ger dinas Rouen heddiw, lle wnaeth dau ymosodwr gymryd gwystlon cyn lladd yr offeiriad gyda chyllell drwy’i wddf. Daeth y digwyddiad i ben wrth i’r heddlu saethu’r ymosodwyr.

Mae enw’r offeiriad a gafodd ei ladd wedi’i gadarnhau – sef y Tad Jacques Hamel ac mae’n debyg ei fod wedi gwasanaethu cymuned Saint-Etienne-du-Rouvray ers degawdau.

Cafodd un o’r gwystlon eraill hefyd  eu hanafu’n ddifrifol.

Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, a gweinidog y llywodraeth, Bernard Cazeneuve, wedi cyrraedd y safle wrth i swyddogion fforensig barhau a’u hymchwiliad.

Mae Hollande wedi dweud y bydd yn brwydro yn erbyn IS “gan ddefnyddio pob dull posib”.

Yn y cyfamser dywed erlynwyr yn Ffrainc bod un person wedi cael ei arestio yn yr ymchwiliad i’r ymosodiad.