Geena Roberts o Aberystwyth sy'n byw ym Munich
“Yr hyn sydd wedi’n synnu ni fwyaf yw bod hyn wedi digwydd mewn trefi cymharol fach, trefi diogel.”

Dyna ymateb myfyrwraig 21 oed sy’n byw ym Munich yn ne’r Almaen wrth iddi sgwrsio â Golwg360 am drychinebau diweddar y wlad.

Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Geena Roberts yn astudio Almaeneg ym Mhrifysgol Birmingham ac ar ganol ei blwyddyn allan yn yr Almaen.

Dywedodd fod ei chartref ym Munich yn agos iawn at leoliad yr ymosodiad a ddigwyddodd nos Wener, lle cafodd naw eu saethu’n farw a dwsinau eu hanafu.

“Dydy e’n ddim mwy na thaith pum munud mewn bws i ffwrdd, ac oeddwn i’n gallu clywed y seirenau’n glir a gweld yr hofrenyddion yn pasio.”

Ond, ar ôl ymosodiad arall yn ninas gyfagos Ansbach, nos Sul, lle ffrwydrodd hunanfomiwr ddyfais ger gŵyl gerddorol gan anafu 12, dywedodd Geena Roberts fod y “tensiwn yn uchel.”

Dyna oedd y trydydd ymosodiad o’i fath yn nhalaith Bafaria mewn wythnos, yn dilyn ymosodiad ar drên ddydd Llun diwethaf.

‘Trefi bach, diogel’

“Mae pawb yn teimlo’n nerfus ar hyn o bryd ac yn ofni pryd fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto,” meddai Geena Roberts.

“Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd o fy nghwmpas i, ond mae digwyddiadau diweddar Ffrainc a Brwsel wedi fy ysgwyd i go iawn,” ychwanegodd.

“Yr hyn sydd wedi’n synnu ni fwyaf yw bod hyn wedi digwydd mewn trefi cymharol fach, trefi diogel,” meddai wrth Golwg360.

 

“Doedd neb yn disgwyl iddo ddigwydd yn yr ardaloedd hyn, yn ne’r Almaen, achos mae dinasoedd y gogledd yn llawer mwy a llawer prysurach.”

Ofn ‘wedi cydio’

 

Dywedodd iddi glywed am yr ymosodiad ym Munich nos Wener drwy gyfryngau cymdeithasol.

“Roeddwn i ar fy ffôn yn sgrolio drwy Facebook, a dyma pethau’n dechrau mynd yn wyllt gyda’r heddlu’n cyhoeddi negeseuon i rybuddio pobl i beidio mynd allan.”

“Fe wnaeth y ddinas mwy neu lai gau lawr dydd Gwener, ac roedd  fy nheulu a fy ffrindiau yn poeni amdanaf,” meddai.

Ac ar y strydoedd heddiw, dywedodd fod y prysurdeb dyddiol wedi dychwelyd yn ôl i’w arfer.

“Mae pobl yn mynd ymlaen â’u bywydau, sy’n beth da. Mae’n rhaid i chi. Ond mae yna deimlad o ansicrwydd, mae’r ofn bendant wedi cydio yng nghefn meddyliau pobl.”

Cyfweliad: Megan Lewis