Heddlu arfog Ffrainc, LLun: PA
Mae dau ddyn gyda chyllyll wedi cael eu saethu’n farw ar ôl cymryd pobl yn wystlon mewn eglwys yn Ffrainc, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl adroddiadau roedd offeiriad, dwy leian a nifer o addolwyr wedi cael eu cymryd yn wystlon yn Saint-Etienne-du-Rouvray, i’r de o Rouen, yn Normandy.

Mae’n debyg bod y ddau ddyn arfog wedi cael eu saethu’n farw gan yr heddlu.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae “o leiaf un” o’r gwystlon hefyd wedi eu lladd a nifer wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, a gweinidog y llywodraeth, Bernard Cazeneuve, ar eu ffordd i’r safle.

Roedd y ddau ddyn, oedd a chyllyll yn eu meddiant, wedi mynd i’r eglwys toc cyn 10yb amser lleol.