Plismon ger safle'r ffrwydrad yn Ansbach, Llun: (AP Photo/Matthias Schrader)
Mae un o brif swyddogion diogelwch Bafaria wedi dweud bod yr heddlu wedi dod o hyd i fideo o’r dyn a ymosododd ar bobol ger gŵyl gerddorol yn Ansbach, yr Almaen nos Sul, yn tyngu llw o deyrngarwch i’r mudiad eithafol, IS.

Daeth yr heddlu o hyd i fideos treisgar a deunydd gwneud bomiau yng nghartref y dyn hefyd.

Mae’r fideo yn dangos y dyn 27 oed yn tyngu llw o deyrngarwch i arweinydd grŵp y Wladwriaeth Islamaidd, neu IS, yn ôl Joachim Herrmann, gweinidog y llywodraeth yn Bafaria.

Mae’r cyfieithiad cyntaf o’r fideo Arabaidd yn dangos y dyn yn cyhoeddi ymosodiad o “ddial” ar yr Almaen.

Fe ffrwydrodd yr hunan-fomiwr ddyfais ger gŵyl gerddorol yn y dref yn ne’r Almaen am tua 10yh nos Sul.

Fe wnaeth y ceisiwr lloches o Syria ladd ei hun ac anafu 12 o bobol eraill, tri ohonyn nhw’n ddifrifol.

“Ymosodiad brawychol”

Yn ôl Joachim Herrmann, mae’r fideo yn awgrymu’n gryf  bod y digwyddiad yn “ymosodiad brawychol.”

Daeth yr heddlu o hyd i danwydd, cemegau a deunydd eraill a allai fod wedi cael eu defnyddio i greu bom, meddai.

Cafodd tua 2,500 o bobl eu symud o’r ŵyl gerddorol awyr agored yn Ansbach lle’r oedd yr hunan-fomiwr wedi ceisio cael mynediad ond wedi cael ei wrthod.

Tensiynau yn yr Almaen

Dyma’r trydydd ymosodiad yn rhanbarth Bafaria o’r Almaen o fewn wythnos.

Nos Wener, fe gafodd naw o bobol eu saethu’n farw a dwsinau eu hanafu pan wnaeth dyn 18 oed ymosod ar ganolfan siopa, cyn lladd ei hun.

Bu ymosodiad ar drên gan geisiwr lloches 17 oed o Afghanistan, Riaz Khan Ahmadzai, gyda bwyell ddydd Llun hefyd.

Cafodd pump o bobl eu hanafu a chafodd Ahmadzai ei saethu’n farw gan yr heddlu. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Yn gynharach ddydd Sul, roedd ceisiwr lloches 21 oed o Syria wedi lladd dynes gyda machete ac anafu dau o bobl eraill y tu allan i orsaf fysiau yn ninas Reutlingen yn ne-ddwyrain yr Almaen, cyn cael ei arestio.