Mae  dau o bobl wedi’u lladd ac o leiaf 16 wedi’u hanafu yn dilyn saethu mewn clwb nos yn Fflorida.

Mae’n debyg fod y saethu wedi digwydd am 12.30yb yn ystod disgo i bobl yn eu harddegau mewn clwb nos o’r enw Club Blu yn Fort Myers.

Mae’r rhai gafodd eu hanafu rhwng 12 a 27 oed. Mae pedwar o bobl yn parhau yn yr ysbyty, dau ohonyn nhw yn yr uned ofal dwys. Mae’r rhai eraill gafodd eu hanafu bellach wedi gadael yr ysbyty

Dywedodd y Capten Jim Mulligan o Adran yr Heddlu yn Fort Myers bod tri o bobl wedi’u harestio ond mae’r chwilio’n parhau am eraill a allai fod yn gysylltiedig a’r ymosodiad.

Roedd neges ar dudalen Facebook Club Blu fore dydd Llun yn dweud bod y saethu wedi dechrau wrth i’r clwb gau ac wrth i rieni ddod i nôl eu plant. Dywedodd hefyd bod swyddogion diogelwch arfog yn y digwyddiad.

Ym mis Mehefin cafodd 49 o bobl eu llada a 53 eu hanafu gan ddyn arfog, Omar Mateen, yng nghlwb nos Pulse yn Orlando, Fflorida.