Swyddog yr heddlu ger safle'r ffrwydrad yn Ansbach, Llun: (AP/Matthias Schrader)
Roedd hunan-fomiwr a ffrwydrodd ddyfais ger gŵyl gerddorol yn ne’r Almaen neithiwr yn geisiwr lloches o Syria.

Roedd y dyn 27 oed wedi lladd ei hun ac anafu 12 o bobl eraill, tri ohonyn nhw’n ddifrifol, pan ffrwydrodd y ddyfais ger bar yn Ansbach tua 10yh nos Sul.

Cafodd tua 2,500 o bobl eu symud o’r ŵyl gerddorol awyr agored yn Ansbach lle’r oedd yr hunan-fomiwr wedi ceisio cael mynediad ond wedi cael ei wrthod.

Wrth i’r ymchwiliad i’r ymosodiad ddechrau, dywedodd  swyddogion lleol mai “dyfalu pur” ar hyn o bryd fyddai cysylltu’r ymosodiad gydag eithafwyr Islamaidd.

Ymosodiadau

Daeth yr ymosodiad yn dilyn cyflafan yn Munich nos Wener pan gafodd naw o bobl eu saethu’n farw a dwsinau eu hanafu.

Dyma’r trydydd ymosodiad yn Bafaria o fewn wythnos, yn dilyn ymosodiad ar drên gan geisiwr lloches 17 oed o Afghanistan, Riaz Khan Ahmadzai, gyda bwyell ddydd Llun.  Cafodd pump o bobl eu hanafu a chafodd Ahmadzai ei saethu’n farw gan yr heddlu. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Yn gynharach ddydd Sul, roedd ceisiwr lloches 21 oed o Syria wedi lladd dynes gyda machete ac anafu dau o bobl eraill y tu allan i orsaf fysiau yn ninas Reutlingen yn ne-ddwyrain yr Almaen, cyn cael ei arestio.

Dywedodd gweinidog y llywodraeth yn Bafaria, Joachim Herrmann, bod yr hunan-fomiwr yn Ansbach yn geisiwr lloches o Syria ond bod ei gais wedi cael ei wrthod.  Roedd wedi cael aros yn yr Almaen oherwydd y rhyfel cartref yn ei famwlad.

Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei enw ac nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd ei gymhelliad ond fe awgrymodd Joachim Herrmann ei bod “yn debygol iawn ei bod yn ymosodiad eithafol” a bod y dyn yn hysbys i’r awdurdodau.

Mae’r tensiynau yn yr Almaen wedi bod yn cynyddu wrth i niferoedd mawr o ymfudwyr symud i’r wlad.