Mae ceisiwr lloches o Syria wedi lladd gwraig gyda machete, ac wedi anafu dau berson arall yn ninas Reutlingen yn ne-orllewin yr Almaen.

Mae llygad dystion yn dweud i’r dyn 21 mlwydd oed, a oedd yn wybyddus i’r heddlu, yn dadlau gyda’r ddynes cyn iddo ymosod arni. Mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw eto’n siwr beth oedd achos y ffraeo.

Fe ddaw’r ymosodiad yn dynn ar sodlau ymosodiad gan ddyn ifanc arfog yn Munich nos Wener, lle cafodd naw o bobol eu saethu’n farw. Fe fu hefyd ymosodiad bwyell ar deithwyr trên yn ne’r wlad wythnos yn ôl.