Mae o leia’ unarddeg o bobol wedi’u lladd gan hunanfomiwr mewn tsiecpoint yng ngogledd Baghdad heddiw.

Fe ffrwydrodd y cerddwr ei ddyfais ben bore heddiw wrth fynedfa i ardal Shiiaidd Kadhimiyah o’r ddinas, gan ladd beth bynnag wyth o bobol gyffredin ynghyd â dau blismon. Mae 20 o bobol eraill wedi’u hanafu.

Does yr un grwp eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae lluoedd diogelwch mewn ardaloedd Shiiaidd, gan fwya’, yn dargedau amlwg a chyson i grwpiau fel ISIS, sy’n rheoli nifer o’r ardaloedd mwya’ allweddol yng ngogledd a gorllewin Irac.