Mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr i fod yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau, wedi rhybuddio gwledydd fel Ffrainc y gallen nhw fod yn gorfod ateb nifer o gwestiynau wrth iddo geisio rhwystro ymosodiadau terfysgol yn America.

Yn ôl Donald Trump, mae Ffrainc yn wlad sydd wedi’i gwanio gan derfysgaeth, ac fe allai fod yn un o’r gwledydd na chaiff ei dinasyddion ymweld â’r Unol Daleithiau.

“Efallai y down ni i’r pwynt lle na fydd llawer o bobol o dramor yn cael eu gadael i mewn i America,” meddai Donald Trump mewn araith yn Cleveland, Ohio.

“Mae’n rhaid i ni fod yn glyfar, mae’n rhaid i ni fod ar ein gwyliadwraeth, ac mae’n rhaid i ni fod yn gryf.”

Ers misoedd, mae Donald Trump wedi galw am waharddiad dros dro ar y Mwslimiaid o dramor sy’n ceisio mynediad i’r Unol Daleithiau, ac mae wedi beirniadau gweinyddiaeth yr arlywydd presennol, Barack Obama, am ddal ati i dderbyn ffoaduriaid o Syria.