Mae’n ymddangos fod hedfanwr balwn awyr poeth o Rwsia wedi torri’r record am fynd o gwmpas y byd.

Fe lwyddodd Fedor Konyukhov i wneud y daith mewn 11 diwrnod, meddai. ac mae aelod o’i dîm cefnogol wedi cadarnhau i’r balwn basio dros faes awyr yn Northam, Awstralia, heddiw, lle dechreuodd ei daith ar Orffennaf 12.

Yn ôl amcangyfrifon, fe gymrodd Fedor Konyukhov 11 diwrnod a chwe awr i gwblhau’r siwrnai 21,000 milltir a gymrodd 13 diwrnod ac wyth awr i’r Americanwr, Steve Fossett, yn 2002.

Mae disgwyl i Mr Konyukhov ddod i’r ddaear yn ddiweddarach heddiw.