Mae awyren oedd yn cludo 29 o bobol o Chennai i ynysoedd Bae Bengal yn India wedi mynd ar goll, yn ôl awdurdodau India.
Roedd yr awyren ar daith 845 o filltiroedd fore Gwener.
Mae lle i gredu mai personel y fyddin oedd ar yr awyren, ac fe glywodd yr awdurdodau gan y criw ryw chwarter awr ar ôl i’r daith ddechrau.
Dydy hi ddim yn glir eto a oedd y tywydd yn arw.
Mae llongau’r llynges a nifer o hofrenyddion yn chwilio am yr awyren.