Llun: PA
Mae Rwsia wedi colli ei apêl yn erbyn y penderfyniad i wahardd ei dîm athletau rhag cystadlu.

Mae’r penderfyniad yn ei gwneud hi’n fwy tebygol na fydd athletwyr Rwsia’n cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio fis nesa.

Roedd Pwyllgor Olympaidd Rwsia a 68 o athletwyr wedi cyflwyno’r apêl i Lys Cyflafareddu Chwaraeon wedi i’r corff llywodraethol athletau (IAAF) wahardd athletwyr o Rwsia rhag cystadlu ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd yr athletwyr eu gwahardd y llynedd ar ôl cyhoeddi adroddiad damniol fod y defnydd o gyffuriau i wella perfformiad yn rhywbeth cyffredin ymysg athletwyr Rwsia.

Mae ail ymchwiliad a gyhoeddwyd gan Asiantaeth Gwrth-Dopio’r Byd yn gynharach y mis hwn hefyd wedi datgelu bod chwaraeon Rwsia wedi tanseilio cystadleuaeth deg mewn sawl digwyddiad, gan gynnwys y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 a gemau’r gaeaf yn Sochi yn 2014.

Bydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a’r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn cyfarfod ddydd Sul i ystyried gwahardd holl athletwyr Rwsia o’r Gemau Olympaidd fis nesa’ ac maen nhw wedi addo gwneud penderfyniad erbyn dydd Mercher.