Jean-Claude Juncker yn trafod gyda Phrif Weinidog Prydain y llynedd (Llun:PA)
Fe fydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cynnal cynhadledd i’r wasg y bore yma i ymateb i benderfyniad gwledydd Prydain i adael yr Undeb.

Yn eu plith bydd Jean Claude Juncker, Llywydd yr Undeb, ac arweinwyr y Senedd a’r Cyngor Ewropeaidd.

Yn y cyfamser, mae llywodraethau hefyd yn ymateb, gydag o leia’ dwy wlad wedi trefnu cyfarfod brys o weinidogion.

Fe fydd cabinet Ffrainc yn cwrdd yn ddiweddarach heddiw, dan arweinydd y Llywydd, Francois Hollande.

Ac mae cabinet Iwerddon hefyd eisoes wedi trefnu cyfarfod gyda llefarydd ar ran y Llywodraeth yn dweud bod gan y bleidlais “oblygiadau difrifol” iddyn nhw hefyd.