Mae swyddogion cudd-wybodaeth Iran wedi llwyddo i rwystro’r “cynllwyn brawychol mwyaf o’i fath” a oedd yn bwriadu targedu Tehran a thaleithiau eraill yn y Weriniaeth Islamaidd.

Mae cyfryngau’r wlad hefyd yn adrodd bod sawl un wedi’u harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o’r cynllwyn wedi i’r asiantaethau ddod o hyd i ffrwydron a bomiau yn eu meddiant, ac maent yn cael eu holi ar hyn o bryd.

Yn ôl adroddiadau, mae awgrym fod yr ymosodiad wedi’i gynllwynio ar gyfer cyfnod sanctaidd Ramadan y Mwslimiaid.

Yn ogystal, mae’n bosib y byddai wedi taro ar ben-blwydd marwolaeth gwraig y Proffwyd Muhammad, sef Khadija, wrth iddi gael ei chofio mewn gwasanaethau bychain ledled Iran ar ddydd Iau.

‘Wynebu sawl bygythiad’

Nid yw enwau’r rhai a gafodd eu harestio wedi’u rhyddhau, ond mae cyfryngau’r wlad yn cyfeirio atynt fel ‘takfiris’, sef term sy’n cyfeirio at Fwslimiaid sy’n cyhuddo eraill o ‘beidio â chredu.’

Mae awdurdodau Iran yn aml yn cyfeirio at grŵp milwriaethus Swnni y Wladwriaeth Islamaidd fel ‘takfiris’, ond nid yw’n amlwg a oes cysylltiad rhwng yr achos hwn â’r grwpiau eithafol sydd â thiriogaeth yn Irac a Syria.

Fe gyhoeddodd Gweinidog Cudd-wybodaeth Iran, Mahmoud Alavi, ym mis Mai fod 20 o “grwpiau brawychol” a oedd yn bwriadu ffrwydro bomiau ar draws y wlad wedi eu rhwystro.

Er hyn, nid yw’n glir a yw’r cynllwyn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn rhan o hynny.

Mae Iran yn wynebu sawl bygythiad gan grwpiau milwriaethus, gyda lluoedd y wlad yn brwydro â grŵp gwrthryfelgar Cwrdaidd yn nhalaith orllewinol Azerbaijan yr wythnos diwethaf, ar y ffin gydag Irac a Thwrci.