Mae mam wedi achub ei mab pump oed ar ôl i lew ymosod arno yn eu cartref yn yr Unol Daleithiau.

Clywodd y ddynes ei mab yn sgrechian wrth iddo chwarae â’i frawd ger Aspen yn nhalaith Colorado.

Ar ôl rhedeg allan, gwelodd hi ei mab yn ymladd â’r anifail.

Cafodd y bachgen anafiadau i’w wyneb, ei ben a’i wddf ac fe gafodd ei gludo i’r  ysbyty yn Denver. Cafodd y fam fân anafiadau.

Cafodd dau lew eu lladd yn yr ardal wedi’r digwyddiad ac mae archwiliad wedi’i gynnal ar eu cyrff.

Mae oddeutu 4,500 o lewod mynydd yn y dalaith ac maen nhw’n aml yn mynd i ardaloedd dinesig i chwilio am fwyd.

Ers 1990, mae tri o bobol wedi’u lladd gan lewod yn y dalaith, a 18 wedi’i hanafu.