Mae chwech o bobol – yn cynnwys dau newyddiadurwr Al-Jazeera – wedi’u dedfrydu i farwolaeth gan lys yn Yr Aifft.

Maen nhw wedi’u cael yn euog o drosglwyddo dogfennau yn ymwneud â mater o ddiogelwch cenedlaethol i Qatar, ac yn benodol i’r cwmni teledu sydd â’i bencadlys yn Doha. Mae’r mater yn deillio o gyfnod Mohammed Morsi yn arlywydd Yr Aifft.

Mae’r cyn-arlywydd hefyd wedi’i ddedfrydu i dreulio 25 mlynedd dan glo. Fe gafodd ei wthio o’i swydd yn 2013 gan fyddin y wlad, ac mae eisoes wedi’i ddedfrydu i farwolaeth mewn achos llys arall yn ei erbyn.

Mae’r ddau newyddiadurwr – sydd wedi’u henwi gan y barnwr fel y cynhyrchydd Alaa Omar Mohammed a’r golygydd newyddion Ibrahim Mohammed Hilal – wedi’u dedfrydu yn eu habsenoldeb, ynghyd ag Asmaa al-Khateib a oedd yn gweithio i Rasd, rhwydwaith gyfryngol sy’n cael ei gysylltu â Brawdoliaeth Fwslimaidd Mohammed Morsi.

Fe gafodd y Frawdoliaeth ei gwahardd, a’i labelu’n grwp terfysgol, wedi ymadawiad yr arlywydd o’i swydd.