Mae wythnos o law trwm yn ne China wedi lladd 25 o bobol a gorfodi 33,200 o drigolion allan o’u tai yn rhai o ardaloedd tlotaf a mwya’ anghysbell y wlad.

Fe ddaeth cadarnhad gan y Weinyddiaeth Materion Sifil bod 4 miliwn o bobol mewn deg o daleithiau wedi’u heffeithio gan y llifogydd a’r tirlithriadau. Mae chwech o bobol yn dal i fod ar goll.

Yn rhanbaeth Jiangxi yn ne-ddwyrain y wlad, fe fu pobol yn gwthio eu ceir trwy ddyfroedd at eu canol, ac fe ddangoswyd ar deledu gerbydau eraill yn arnofio i lawr strydoedd.

Mae de China yn diodde’ bob blwyddyn o ganlyniad i law monswn yn ystod misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf, ond mae’r tymor hwn wedi bod yn un neilltuol o wlyb. Mae lefel y dyfroedd mewn ambell afon wedi codi uwchlaw lefelau 1998, pan ddioddefodd China lifogydd a effeithiodd ar 180 miliwn o bobol.