Oscar Pistorius Llun: PA
Mae’n rhaid i Oscar Pistorius dalu am yr hyn a wnaeth – dyna ddywedodd tad Reeva Steenkamp wrth lys yn Ne Affrica heddiw.
Bu Barry Steenkamp yn son am y loes a achoswyd i’w deulu ar ôl i’w ferch gael ei saethu’n farw gan yr athletwr Paralympaidd yn ei gartref yn 2013.
Ychwanegodd yr hoffai gynnal trafodaeth breifat gyda Oscar Pistorius yn y dyfodol.
Bu Barry Steenkamp yn siarad yn ystod gwrandawiad dedfrydu Pistorius a gafwyd yn euog o lofruddio ei gariad yn ei gartref yn Pretoria ar Ddydd San Ffolant.
Cafodd y dyfarniad gwreiddiol o ddynladdiad ei wyrdroi y llynedd gan lys apêl, i’r cyhuddiad mwy difrifol o lofruddiaeth.
Y Barnwr Thokozile Masipa fydd yn penderfynu beth fydd y ddedfryd newydd.
Mae Pistorius wedi treulio’r misoedd diwethaf o dan glo yng nghartref ei ewythr fel rhan o’i ddedfryd.
Fe allai wynebu isafswm o 15 mlynedd dan glo.
Mae cyfreithiwr ar ran yr athletwr Barry Roux wedi dadlau na ddylai fynd i’r carchar oherwydd fe allai wneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas yn helpu athletwyr ifanc eraill.