Oscar Pistorius Llun: PA
Mae’r gwrandawiad i ddedfrydu’r cyn athletwr paralympaidd, Oscar Pistorius, wedi dechrau yn yr Uchel Lys yn Pretoria, De Affrica.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad bara pum diwrnod, gyda Pistorius, 29 oed, yn clywed tynged ei ddedfryd am lofruddio ei gariad dair blynedd yn ôl.

Cafodd Oscar Pistorius ei ddyfarnu’n euog am lofruddio ei gariad, Reeva Steenkamp, ar ddydd Sant Ffolant 2013 ar ôl ei saethu pedair gwaith drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref.

Cafodd ei ddyfarniad gwreiddiol o ddynladdiad ei wyrdroi a chafwyd yr athletwr yn euog o lofruddiaeth.

Fe wrthododd barnwyr y Llys Cyfansoddiadol ei apêl yn erbyn y dyfarniad.

Fe allai wynebu hyd at 15 mlynedd o dan glo, yn ôl dedfrydau De Affrica.

Mae wedi treulio’r misoedd diwethaf o dan glo yng nghartref ei ewythr fel rhan o’i ddedfryd.