Cafodd Adolf Hitler ei eni yn Awstria yn 1889
Mae un o weinidogion Awstria wedi dweud mai dymchwel cartref Adolf Hitler fyddai’r “ateb glanaf”.

Mae’r llywodraeth yn awyddus i ddymchwel yr adeilad yn Braunau am Inn lle cafodd cyn-Ganghellor yr Almaen ei eni yn 1889.

Maen nhw’n gofidio y gallai’r adeilad ddod yn fan ymgynnull ar gyfer pobol neo-Natsïaidd ledled y wlad.

Mae’r llywodraeth wedi bod yn rhentu’r adeilad ers 1972 er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion o’r fath.

Ond mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 2011.

Dywedodd Wolfgang Sobotka, sy’n weinidog cartref gyda’r llywodraeth: “I fi, ei ddymchwel… fyddai’r ateb glanaf.”

Ond dywed y llywodraeth mai ei farn yntau yw honno ac y byddai angen iddyn nhw wirio a fyddai dymchwel yr adeilad yn gyfreithlon.

Mae comisiwn o haneswyr yn dod at ei gilydd i drafod dyfodol yr adeilad.