Mae lefel y dwr yn afon Seine ym Mharis yn dechrau cwympo, wedi cyrraedd ei uchafbwynt mewn 35 mlynedd dros nos.

Ond fe ddaeth rhybudd hefyd y byddai’n cymryd hyd at ddeng niwrnod i’r afon ddychwelyd at ei lefel arferol, wedi’r llifogydd diweddar. Ar ei ucha’, roedd lefel y dwr tua 4.5 metr (15 troedfedd) yn uwch na’r lefel cyfartalog ym Mharis.

Mae llifogydd o ganlyniad i law trwm wedi tarw rhannau o Ffrainc, yr Almaen a gwlad Belg yr wythnos hon, ac mae mwy na 17,000 yn parhau heb drydan heddiw yng nghanol Ffrainc.

Mae’r awdurdodau hefyd wedi cau amgueddfa’r Louvre, y llyfrgell genedlaethol, amgueddfa Orsay a’r Grand Palais yn y ddinas.