Mae o leiaf 17 o weithwyr y fyddin wedi’u lladd yn dilyn tân mewn gorsaf cyflenwi ffrwydron rhyfel yng ngorllewin yr India.

Yn ôl adroddiadau newyddion lleol, dechreuodd y tân yng ngorsaf Pulgaon yn rhanbarth Wardha cyn i’r wawr dorri fore dydd Mawrth (Mai 31).

Dywedodd Devendra Fadnavis, prif weinidog talaith Maharashtra (lle mae’r orsaf wedi’i lleoli), fod y tân wedi achosi “colled anferthol o fywyd ac eiddo.”

Ychwanegodd fod y llywodraeth yn sicrhau bod “pob adnodd” ar gael i helpu’r fyddin reoli’r sefyllfa ynghyd â sicrhau bod gan yr ysbytai lleol yr adnoddau i ddelio â’r rhai sydd wedi’u hanafu. Yn ogystal, mae Prif Weinidog India, Narendra Modi,  wedi galw ar y gweinidog amddiffyn i ymweld â’r safle.

Mae’r cyfryngau lleol yn adrodd bod 17 o weithwyr y fyddin wedi marw, 19 wedi’u hanafu a thua 1,000 o bobol leol wedi’u symud o’r ardal.