Llun: Wicipedia
Mae nifer o bobl wedi’u lladd mewn cyfres o ymosodiadau o’r awyr ar gadarnleoedd gwrthryfelwyr yng ngogledd orllewin Syria gan arwain at ragor o wrthdaro.

Yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol Syria (SOHR) cafodd 10 ymosodiad o’r awyr eu cynnal ar ddinas Idlib gyda’r nos, gan ladd 14 o bobl gyffredin, gan gynnwys tri phlentyn.

Dywed y grŵp eu bod yn credu mai awyrennau Rwsia oedd yn gyfrifol.

Yn ol Civil Defence, sy’n cynnal ymgyrchoedd achub, cafodd dwsinau eu lladd a channoedd eu hanafu yn yr ymosodiadau awyr a oedd wedi difrodi nifer o ysbytai.

Dywedodd y grŵp eu bod wedi anfon ei holl dimau achub yn Idlib i’r safle.

Mae  Arsyllfa Hawliau Dynol Syria yn dweud na chafodd ysbytai eu targedu ond eu bod wedi cael eu difrodi pan ffrwydrodd bomiau gerllaw.

Nusra Front

Mae Idlib o dan reolaeth y glymblaid Army of Conquest sy’n cynnwys grwpiau o wrthryfelwyr.

Y Nusra Front, rhan o Al Qaida yn Syria, sy’n arwain y glymblaid.

Mae’r Nusra Front yn cael ei ystyried fel grŵp brawychol gan yr Unol Daleithiau a’r Cenhedloedd Unedig, ac nid yw wedi cael ei gynnwys mewn cytundebau blaenorol i sicrhau cadoediad rhwng  lluoedd y llywodraeth a’r gwrthryfelwyr.

Fe ymatebodd yr Army of Conquest i’r ymosodiadau drwy fomio trefi Foua a Kefraya, yn ôl yr Arsyllfa. Mae’r ddwy dref yn cael eu hystyried fel rhai sy’n cefnogi llywodraeth Assad.

Daw’r ymosodiadau ar ôl i brif drafodwr y grwpiau sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth yn y trafodaethau heddwch yng Ngenefa ymddiswyddo.

Dywedodd Mohammed Alloush nad oedd y gymuned ryngwladol “o ddifrif” ynglŷn â cheisio datrys y rhyfel cartref yn Syria sydd wedi parhau am bum mlynedd.

Ychwanegodd bod lluoedd llywodraeth Syria yn parhau i ymosod ar safleoedd y gwrthryfelwyr er gwaethaf y trafodaethau heddwch yng Ngenefa.