Llanast ar ôl y llifogydd yn Braunsbach, 50 milltir i'r gogledd o Stuttgart, yn yr Almaen (Marijan Murat/dpa via AP)
Mae pedwar o bobl wedi cael eu lladd mewn stormydd a llifogydd yn ne-orllewin yr Almaen.

Fe fu farw ymladdwr tân, a dyn roedd yn ceisio’i achub, yn Gmuend, 30 milltir i’r dwyrain o Stuttgart, wrth iddyn nhw gael eu sugno i dwnel cerddwyr a oedd yn llawn dŵr.

Cafwyd hyd i gorff dyn hefyd mewn garej danddaearol wedi gorlifo yn Weissbach ger dinas Heilbronn.

Yn Schorndorf, ger Stuttgart, cafodd merch 13 oed ei lladd wrth gael ei tharo gan drên wrth iddi gysgodi o dan bont reilffordd neithiwr.

Un o’r lleoedd i gael eu taro galetaf oedd tref fechan Braunsbach, 50 milltir i’r gogledd o Stuttgart, lle gwnaeth dwy afon dorri eu glannau gan ddinistrio un tŷ, difrodi llawer un arall a gadael strydoedd yn llawn cerrig a mwd.

Mae rhannau helaeth o’r Almaen a Ffrainc a Gwlad Pwyl wedi diodddef penwythnos o law trwm, gydag amryw o bobl yn cael eu taro gan fellt nos Sadwrn.