Cwch yn cludo ffoaduriaid ger arfordir yr Eidal (llun: PA)
Plant ar eu pen eu hunain oedd llawer o’r 700 o ffoaduriaid a foddodd yr wythnos ddiwethaf wrth groesi o Libya i’r Eidal, yn ôl sefydliad plant y Cenedloedd Unedig.

Mae Unicef yn rhybuddio bod miloedd o blant ar drugaredd smyglwyr ac yn wynebu camdriniaeth a chreulondeb ar eu teithiau peryglus i Ewrop.

“Mae’r straen dw i wedi eu clywed gan blant sy’n gwneud y daith yn ddychrynllyd,” meddai Marie-Pierre Poirier o Unicef.

“Ddylai’r un plentyn fod yn eu hwynebu.

“Mae eu bywydau yn nwylo smyglwyr sy’n poeni am ddim byd ond am yr arian y maen nhw’n ei wasgu ohonyn nhw.”

Mae cyfartaledd o tua 1,000 o blant ar eu pen eu hunain yn cyrraedd yr Eidal bob mis, ac mae Unicef yn ofni y bydd y nifer yn cynyddu dros y misoedd nesaf.

Mae Unicef wrthi’n trafod ffyrdd o amddiffyn y plant hyn gyda llywodraeth yr Eidal ar hyn o bryd.