Mae llys yn yr Ariannin  wedi dedfrydu unben olaf y wlad i 20 mlynedd o garchar am ei ran mewn cyrch rhyngwladol yn erbyn hawliau dynol.

Roedd y Cadfridog Reynaldo Bignone, 88 oed, oedd yn rheoli’r Ariannin yn 1982-83, eisoes yn y carchar am oes am droseddau’n ymwneud â herwgipio a phoenydio dros 100 o bobl ac am gamddefnyddio ei rym.

Dyma’r tro cyntaf i lys ddedfrydu unben yn ne America am droseddau’n ymwneud â chynllwyn rhyngwladol o’r enw Cyrch Condor.

Cafodd Cyrch Condor ei sefydlu gan  y Cadfridog Augusto Pinochet, unben Chile yn 1975, a daeth unbeniaid gwledydd cyfagos gan gynnwys yr Ariannin, Bolivia, Brazil, Paraguay ac Uruguay yn rhan ohono.

Eu nod oedd cael gwared ar wrthwynebwyr gwleidyddol trwy unrhyw ddull posibl a bu Cyrch Condor yn  gyfrifol am gyflawni pob mathau o erchyllterau mewn rhannau helaeth o Dde America.