Barack Obama yw’r arlywydd cyntaf o America i ymweld â’r safle lle ollyngwyd y bom atomig cyntaf erioed ar bobl.

Gan ddod â sylw’r byd i oroeswyr y bom, dywedodd Barack Obama na ddylai’r ymosodiad ar Hiroshima fyth gael ei anghofio.

Er hyn, wnaeth yr Arlywydd ddim ymddiheuro am yr ymosodiad a laddodd dros 140,000 o bobol , yn dilyn gollwng y bom ar y ddinas ar 6 Awst 1945.

Mae llawer o bobol yn yr Unol Daleithiau yn credu bod y digwyddiad wedi arwain at ddod â’r Ail Ryfel Byd i ben, tra bod eraill wedi’i alw’n drosedd ryfel.

Yn ystod ei ymweliad, fe wnaeth Barack Obama osod torch ym Mharc Heddwch Hiroshima.

Cafodd ail fom ei ollwng gan yr Unol Daleithiau dri diwrnod ar ôl Hiroshima ar ddinas Nagasaki, gan ladd 70,000 o bobol.

Dywedodd Barack Obama fod Hiroshima yn “rhywle i’n hatgoffa nad yw’r gwaith wedi’i wneud i leihau rhyfel, adeiladu sefydliadau o heddwch a lleihau’r posibilrwydd o ryfel niwclear yn y dyfodol”.