David Cameron - cefnogaeth y G7 (o'i dudalen Facebook)
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi cael cefnogaeth ryngwladol yn ei ymdrech i gadw’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn datganiad, dywedodd arweinwyr gwledydd y G7, oedd yn cyfarfod yn Siapan ddoe, y byddai ‘Brexit’ – penderfyniad i adael yr Undeb – peryglu twf rhyngwladol.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn sylwadau tebyg gan weinidogion cyllid y G7, y Gronfa Ariannol Ryngwladol a’r Sefydliad dros Ddatblygiad a Chydweithrediad Economaidd.

Rhybudd dros bensiynau

Daw hefyd wrth i’r Trysorlys rybuddio pensiynwyr y bydd gwerth eu pensiynau yn lleihau o filoedd o bunnoedd os bydd y Deyrnas Unedig yn penderfynu gadael Ewrop ar 23 Mehefin.

Mae’r ymgyrchoedd tros adael yr Undeb yn dweud nad oes modd ymddiried yn y ffigurau.