Mae saith o bobol bellach wedi marw ar ôl i losgfynydd ffrwydro yng ngorllewin Indonesia ddydd Sadwrn.

Mae dau o bobol eraill mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn nhalaith Gogledd Sumatra.

Fe allai rhagor o ffrwydradau ddigwydd eto, yn ôl swyddogion lleol.

Roedd yr holl bobol fu farw’n gweithio ar ffermydd cyfagos, ryw ddwy filltir a hanner i ffwrdd o safle’r llosgfynydd.

Mae milwyr wedi cau ffyrdd ac wedi sicrhau bod anifeiliaid sydd wedi goroesi’n ddiogel.

Mae’r ymdrechion i ddod o hyd i ragor o bobol yn fyw wedi dod i ben.

Cafodd dau o bobol eu lladd ger llosgfynydd Sinabung yn 2010, ac 16 yn 2014.

Mae mwy na 120 o losgfynyddoedd byw yn Indonesia.