Mae meddygon yng Ngwlad Thai wedi rhoi llawdriniaeth i frenin 88 mlwydd oed y wlad, gan dynnu hylif o’i ymennydd a’i linyn arian.

Mewn datganiad gan y teulu brenhinol, fe barhaodd y driniaeth awr a chwarter, gan ddefnyddio tiwb a ddefnyddiwyd cyn hynny i dynnu hylif o abdomen y Brenin Bhumibol Adulyadej ddydd Gwener.

Mae’r claf mewn cyflwr “derbyniol” meddai’r datganiad wedyn, a’r gobaith yw y bydd y driniaeth yn lliniaru rhywfaint ar y gwingo yn nerfau wyneb y brenin.

Fe gamodd y Brenin Bhumibol i’w orsedd yn y flwyddyn 1946, ond mae wedi treulio’r degawd diwetha’ yn yr ysbyty, gan encilio o fywyd cyhoeddus yn llwyr, fwy neu lai.

Mae ei iechyd bregus yn achos pryder yng Ngwlad Thai, gan fod ei fab a’i olynydd, y Tywysog Coronog Vajiralongkorn yn 63 oed.