Lionel Messi yw seren Barcelona
Fe fydd cenedlaetholwyr Catalanaidd yn chwifio 10,000 o faneri’r Alban mewn protest yn ystod ffeinal pêl-droed fawr yn Sbaen y penwythnos yma.

Daw’r cam yma gan gefnogwyr Barcelona, sydd yn herio Sevilla yn rownd derfynol y Copa del Rey ddydd Sadwrn, yn dilyn penderfyniad yr awdurdodau i wahardd baner yr Estelada.

Mae tensiynau cyffredinol yn parhau o hyd rhwng awdurdodau Sbaenaidd a’r rhanbarthau datganoledig yn Sbaen, gyda’r mudiad annibyniaeth yng Nghatalwnia yn un cryf.

Fel protest yn erbyn y gwaharddiad fe drefnodd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia a mudiadau eraill i ddosbarthu’r baneri Albanaidd cyn y gêm yn Stadiwm Vicente Calderon, Madrid.

‘Ymosod ar ryddid mynegiant’

“Fe ddewision ni’r symbol yma gan ei fod yn ein caniatáu ni i amlygu’r gwahaniaeth rhwng y driniaeth mae Catalwnia yn ei gael gan Sbaen, a’r driniaeth mae’r Alban yn ei gael gan lywodraeth Prydain,” meddai datganiad gan y Cynulliad.

Cyfeirio y maen nhw at y ffaith bod llywodraeth Sbaen dro ar ôl tro wedi mynnu y byddai hi’n anghyfreithlon caniatáu i un o’i rhanbarthau ddatgan annibyniaeth, tra bod Prydain wedi rhoi’r hawl hwnnw i’r Alban yn 2014.

Mae’r cefnogwyr wedi cael eu hannog i chwifio’r baneri ar ôl 17 munud ac 14 eiliad o’r gêm, cyfeiriad at y flwyddyn 1714 pan gafodd cenedl y Catalaniaid ei llyncu gan y Sbaenwyr.

Mae clwb Barcelona hefyd wedi dweud eu bod yn “anghytuno’n llwyr” â’r gwaharddiad i’r faner, gan ddweud ei fod yn “ymosodiad ar ryddid mynegiant”.