Mae tua 8,000 o weithwyr mewn meysydd olew i’r gogledd o ddinas Fort McMurray yng Nghanada wedi gorfod ffoi wrth i’r awdurdodau geisio rheoli’r tanau gwyllt sy’n ymledu drwy dalaith Alberta.

Eisoes, mae tua 80,000 o drigolion Fort McMurray wedi gorfod gadael eu cartrefi am fwy na phythefnos oherwydd y tanau gwyllt.

Bellach, mae’r gorchymyn i adael wedi’i ymestyn 30 milltir i’r gogledd o’r ddinas ac i ardal y meysydd olew.

Mewn datganiad neithiwr, dywedodd y cwmni Suncor sy’n gweithredu ar safleoedd y meysydd olew eu bod wedi dechrau’r broses o gau’r gwaith yn yr orsaf.

Er hyn, maen nhw’n pwysleisio nad oes unrhyw ddifrod wedi’i wneud i’r isadeiledd.

Newydd ailddechrau cynhyrchu olew oedd y gweithwyr hyn wedi iddyn nhw orfod rhoi’r gorau iddi i gynorthwyo pobol o Fort McMurray oedd wedi gadael eu cartrefi ac angen lloches.

Mae’r bobol hynny wedi’u wedi trosglwyddo ymhellach i’r de bellach.

Mae’r tanau wedi dinistrio mwy na 2,400 o adeiladau yn Fort McMurray, ond mae diffoddwyr tan wedi llwyddo i achub rhai o’r adeiladau mwyaf pwysig gan gynnwys yr ysbyty, gorsaf trin dŵr a’r maes awyr.

Mae ansawdd aer yr ardal yn parhau yn beryglus ac, yn ôl adroddiadau’r wythnos diwethaf, mae disgwyl i’r tanau losgi am rai misoedd.