Mae mwy na 60 o bobol wedi’u lladd gan fellt yn ystod stormydd yn Bangladesh dros y deuddydd diwetha’.

Mae papurau newydd Bengali, Prothom Alo a Samakal yn adrodd heddiw fod 64 o bobol wedi eu lladd ers dydd Iau.

Mae’r adroddiadau hefyd yn dweud fod y rhan fwya’ o’r marwolaethau wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle mae ffermwyr yn brysur yn medi.

Mae arbenigwyr yn dweud fod torri coed a chynnydd yn nifer y teclynnau metalaidd y mae pobol yn eu defnyddio (fel ffonau symudol) yn cynyddu’r peryg o gael eu taro gan ffellten.