Portreadau anferth o Kim Il Sung a'i fab Kim Jong Il yn sgwâr Kim Il Sung, Pyongyang, Gogledd Korea. Mae'r ddynes sy'n cerdded heibio yn cyfleu eu maint (llun: AP Photo/Wong Maye-E)
Mae arweinydd Gogledd Korea am gael ei urddo â theitl uchaf y wlad mewn cyngres arbennig yn y brifddinas Pyongyang heddiw.

Kim Jong Un yw’r drydedd genhedlaeth o’r teulu Kim i reoli’r wlad, a bydd ei deitl newydd yn ei ddyrchafu i’r un statws â’i ddiweddar dad Kim Jong Il a’i daid Kim Il Sung – sef ysgrifennydd cyffredinol Plaid y Gweithwyr.

Y gred yw mai diben symbolaidd sydd i’r teitl newydd er mwyn dangos bod gan yr arweinydd ifanc reolaeth lawn o’r wladwriaeth.

Caiff y gyngres ei chynnal mewn neuadd yn llawn addurniadau rhwysgfawr, a dyma’r chweched digwyddiad o’i fath yn hanes y wlad. Cafodd y gyngres ddiwethaf ei chynnal yn 1980 – cyn i Kim Jong Un gael ei eni.

Dywedodd Kim fod y gyngres yn “garreg filltir hanesyddol yn erbyn pob fath o fygythiadau gan yr imperialwyr”, ac y byddai’n “paratoi’r ffordd am oes euraid o adeiladu sosialaidd a chynnydd ein chwyldro”.

Cafodd pob un o’r cyngresau eraill eu cynnal gan sylfaenydd y wlad, y ‘llywydd tragwyddol’ Kim Il Sung, taid Kim Jong Un, a fu farw yn 1994.